Iesu estyn dy deyrn-wialen

(Aeth teyrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni)
Iesu! estyn dy deyrn-wialen
  Dros derfynau eitha'r byd;
Dyrcha'th faner at y bobloedd,
  Atat tyn y rhai'n i gyd:
    Gan bob llygad
  Gwelir iachawdwriaeth Duw.

Holl deyrnasoedd byd yn gyfan,
  A'nt yn eiddo'n Harglwydd ni;
Ei lywodraeth fydd yn eang,
  A'i anrhydedd uwch pob bri:
    Bydd yn amlwg
  Ei ogoniant Ef a'i ras.
John Williams 1754-1828 (?)

priodolwyd hefyd i   | attributed also to
Peter Jones (Pedr Fardd) 1775-1845

Tonau [878747]:
Regent Square (Henry Smart 1813-79)
Tamworth (Charles Lockhart 1745-1815)

gwelir:
  Boed i Grist yn etifeddiaeth
  Holl deyrnasoedd byd yn gyfan

(The kingdoms of the world became those of our Lord)
Jesus extend thy sceptre
  Over the utmost ends of the world!
Raise thy banner over the peoples,
  Draw them all to thyself:
    By every eye
  Is God's salvation to be seen.

All the kingdoms of the whole world,
  Shall become those of our Lord;
His government shall be extensive,
  And his honour above all renown:
    Evident shall be
  His glory and his grace.
tr. 2021 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~